Cynnwys Home Page Cysylltwch â ni Switch to english
Testun
-
A
+

The Group

Arweinyddiaeth, datblygiad a thyfiant i’ch busnes

Dewch a’ch amcanion unigol a chyfundrefnol i ni a gall Y Grŵp eich helpu i’w cyflawni. Gan gwmpasu cefnogaeth fusnes gyda ffocws pendant, datblygiad arweinyddiaeth a rheolaeth, ac ymgynghoriaeth adnoddau dysgu, mae gan ein pecynnau hyfforddi record profedig o roddi canlyniadau llinell isaf.

Dros tua’r degawd diwethaf rydym wedi datblygu enw da am roddi gwasanaeth o’r ansawdd uchaf wedi ei seilio ar ein gwybodaeth eang o strategaethau ac adnoddau dysgu. Ychwanegwch at hynny arbenigedd ein partneriaid strategol - fel Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM), Video Arts, Cyswllt Busnes, Cynghorau Sgiliau Dysgu, Fenman a BBC y Byd - ac fe welwch sut gallwn roddi arweinyddiaeth, datblygiad a thyfiant wrth galon eich busnes.

Casglwyd ein tîm o arbenigwyr at ei gilydd yn ofalus i gynnig profiad dwfn o reolaeth a datblygiad perfformiad, a strategaethau a methodoleg dysgu. Yn tanategu’r profiad hwn mae ymrwymiad a brwdfrydedd ein tîm i adeiladu perthynas strategol hir dymor gyda chi drwy drosglwyddo atebion ‘ennill-ennill’.

Top