Cynnwys Home Page Cysylltwch â ni Switch to english
Testun
-
A
+

The Group

Proses chwe cham

  • YMGYNGHORIAD
  • PARTNERIAETH
  • GWEITHREDIAD
  • GWERTHUSIAD
  • ADOLYGIADAU
  • CEFNOGAETH BARHAUS

Mae agwedd unigryw chwe cham Y Grŵp yn mynd a chi drwy’r ymgynghoriad a’r bartneriaeth, i weithrediad, gwerthusiad, adolygiadau a chefnogaeth barhaus. Mae’n agwedd a drosglwyddwn dros dri maes amlwg:

Ymgynghoriaeth

Arbenigedd a phrofiad dros sbectrwm llawn o wasanaethau ymgynghorol. Mae’r rhain yn cynnwys dylunio systemau rheolaeth perfformiad hollgynhwysol, proffilio rôl unigol, dylunio rhaglenni newid diwylliant llawn, cefnogi busnes, systemau, ymgynghoriaeth e-ddysgu a helpu i ryddhau eich potensial ac egni cudd.

Dysgu a Datblygiad

Mae ein pecynnau yn cynnwys rhaglenni hyfforddi gweithredol ar gyfer cyfarwyddwyr ac aelodau timau rheoli uwch, sgiliau adolygu perfformiad, rhaglenni datblygu rheolaeth aml-lefel a hyfforddiant sgiliau trafod. Cewch ateb wedi ei deilwra i’ch anghenion gan ein tîm o hwyluswyr a hyfforddwyr.

Adnoddau Dysgu

Rydym yn gynghorwyr annibynnol, yn cynrychioli pob un o’r prif ddarparwyr adnoddau dysgu, megis Video Arts, Fenman a BBC Y Byd, a gallwn gynnig cyfleusterau rhagolwg helaeth mewn pedwar safle, yn ogystal â gwybodaeth a chyngor dwfn, ac ymgynghoriad ar ddylunio a rheoli canolfannau dysgu. Archebwch o dros 5,000 o deitlau mewn sawl ffurf.

Top