
Gwell gennych ddysgu hunangyfeiriol? Gallwn ddylunio, datblygu, gweithredu a helpu i hybu Canolfannau Adnoddau Dysgu ar eich cyfer chi a’ch mudiad. Yn y deng mlynedd diwethaf rydym wedi sefydlu tua 100 o’r ystafelloedd hyfforddi arbennig hyn sy’n cynnwys deunyddiau e-ddysgu, DVDs a llyfrau, a gellir eu halinio i strategaethau dysgu eich cwmni.
Rydym wedi defnyddio ein sgiliau ymgynghoriad ar adnoddau ar gyfer pob math o fudiadau, cyhoeddus a phreifat. Gyda’n gwybodaeth sylweddol o ddeunyddiau a darparwyr, gallwn edrych ar eich anghenion a chyllideb a dod o hyd i ddeunyddiau i’w cydweddu wrth roddi gwerth eithriadol.