
Fel cynghorwyr annibynnol ar adnoddau dysgu, rydym mewn sefyllfa berffaith i’ch helpu i ddewis o’n dewisiad enfawr o DVDs, fideos, gweithgareddau, llyfrau a deunyddiau e-ddysgu. Felly, beth bynnag fo eich anghenion - boed yn mentora neu symbyliad, absenoldeb neu bendantrwydd, hunan-welliant neu strategaeth - byddwn yn hapus i’ch cynghori ar yr adnoddau dysgu cywir i’ch mudiad.
Gwiriwch ein cyfeiriadur ar lein sydd yn rhestru a disgrifio adnoddau dysgu oddi wrth brif gyflenwyr fel Video Arts, BBC Y Byd, Skillboosters, Adval, Balance Learning a Fenman. Mae’r cwmnïau hyn yn darparu atebion dysgu hyblyg, cofiadwy sy’n defnyddio cymysgedd o ddrama, hwyl a hiwmor i ysgogi dysgu.
Mae ein siop ar lein yn cynnig cynnyrch busnes ac addysgiadol. Dewiswch o dros 5000 o deitlau, gan gynnwys opsiynau e-ddysgu sy’n eich caniatáu i brynu ar sail y person/modwlar. Yn syml dewiswch y cynnyrch gorau ar gyfer eich anghenion a phrynwch yn ddiogel ar lein.
Os oes arnoch angen help i ddewis, pam na rowch gynnig ar ein gwasanaeth Rhagolwg? Dywedwch wrthym ym mha faes mae gennych ddiddordeb ac fe weithia ein hymgynghorwyr gyda chi i leihau eich chwilio gyda deunyddiau o ystod o gyflenwyr. Mae gennym bedair swyddfa, a gallwch ragolygu ein deunyddiau drwy apwyntiad yn eich cangen agosaf - Bryste, Caerdydd, Corsham neu Wrecsam.