
Yn Y Grŵp nid peirianwyr yn unig ydym. Fe welwch ein bod yn ymgynghorwyr newid, fydd yn gweithio gyda chi fel partneriaid i wneud newidiadau parhaol i’ch mudiad. Ac ni arhoswn gyda gweithrediad. Gan ein bod hefyd yn gwmni hyfforddi, gallwn adeiladu a gweithredu pecynnau hyfforddiant effeithiol fydd yn sicrhau bod gan eich tîm y wybodaeth i ddefnyddio a chynnal y systemau.
Mae gennym hefyd ddealltwriaeth fawr o DG. Golyga hyn y gallwn integreiddio’r system rheolaeth newydd i’ch isadeiledd TG presennol - er mwyn iddo gael ei fewnosod i’ch mudiad o’r cychwyn. Cadwn ddyluniad eich systemau rheolaeth yn hyblyg, er mwyn iddynt gael eu diweddaru’n hawdd i gyfarfod â gofynion y dyfodol. Mae hyn yn arbed i chi'r gost o weithredu systemau newydd.
Mae ein Dulliau Dylunio’n defnyddio peth o’r ddogfennaeth bresennol, sy’n helpu eich staff i ymdopi gyda’r trawsnewid i’r systemau newydd. Mae’r defnydd o systemau rhithwir, megis siartiau llif, a’r cread o gysylltiadau i’ch arferion gorau presennol, hefyd yn llyfnhau’r gweithrediad.