Cynnwys
Home Page
Contact us
Switch to english
Leadership, Development, Growth
Cefnogaeth
Y gefnogaeth iawn ar yr amser iawn
O gyngor a hyfforddiant ar gyfer cychwyn busnesau newydd i ddatblygiad gweithlu, ac o fethodoleg gwelliant parhaol i reolaeth adnodd dynol, mae Y Grŵp yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth busnes. A, gydag arian oddi wrth asiantaethau’r llywodraeth, mae’n gefnogaeth y gallwch chi ei fforddio hefyd.
Fe gewch fod ein hathroniaeth ni yn un o gefnogi cylchred oes - un sy’n trosglwyddo’r gefnogaeth yr amser iawn ar gyfer clientau mentrau bach i ganolog fel chi. Dyna pam mae ein Cefnogaeth Busnes yn cael ei drosglwyddo gan dîm mawr o gynghorwyr arbennig gyda chefnogaeth Canolfannau Adnoddau Dysgu gyda chyfleusterau da ledled y DG.
Topiau
Cefnogaeth Cychwyn Busnes newydd
Yn newydd mewn busnes? Trosglwyddwn raglen arian llawn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant a chyngor un-i-un ar gyfer cychwynwyr busnes sy’n chwilio am gefnogaeth parhaol. Mae’n agwedd sy’n helpu i sicrhau cynaladwyedd busnes ac arfer da.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Mandy Jones – Cydlynydd Cyn Cychwyn CBC
Topiau
Cefnogaeth Busnes Ôl Gychwyn
Unwaith y bydd mudiad wedi bod yn marchnata am fwy na thri mis gall dderbyn y gefnogaeth busnes ôl gychwyn gynigir gan Y Grŵp. Yng Nghymru ariannir hwn yn llawn gan fenter Llywodraeth Cynulliad Cymru elwir yn CBC (Cefnogaeth Busnes Cyffredinol).
Dyrennir Cynghorydd Busnes i’r mudiad i gynorthwyo gyda materion busnes cyffredinol, problemau, senarios ac ati, gyda’r bwriad o gynhyrchu canlyniadau pendant. Mae’r canlyniadau yn debygol o fod yn welliannau mewn trosiant/tueddiadau proffidioldeb, gwir lefelau cyflogaeth a nodweddion ychwanegol fel potensial y farchnad, gallu a chyfle.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Jill Newnes – Cydlynydd Ôl Gychwyn CBC
Topiau
Datblygiad Gweithlu
Strwythurwch eich strategaeth rheoli pobl a gweithrediadau gyda’r rhaglen hon ariannir yn llawn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’n gefnogaeth un-i-un sy’n defnyddio fframwaith Buddsoddwyr mewn Pobl fel eich model busnes a daw gyda mynediad i gronfa ddewisol o hyd at £10,000.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Mike Scott – Cyfarwyddwr
Topiau
Rheolaeth Adnodd Dynol
Tapiwch mewn i’n arbenigedd mewnol a gwneud eich proses adnodd dynol yn fwy proffidiol. Cewch gefnogaeth hyblyg ym mhob agwedd o’r swyddogaeth AD, yn dibynnu ar eich anghenion unigol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Sophie Hunter – Cydlynydd Adnodd Dynol
Topiau
Gweithdai Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Os ydych am barhau i wella arweinyddiaeth a rheolaeth, rhowch gynnig ar ein gweithdai a rhaglenni gydag arian. Gan weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, trosglwyddwn ddysg o ansawdd uchel wedi ei gysylltu â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol dros Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Clare Hodge – Cydlynydd Rheolaeth Arweinyddiaeth
Topiau
E-Sgiliau ac E-Ddysgu
Darparu atebion ar lein i ddysgu busnes-berthnasol ydyw cryfder Y Grŵp. Cefnogwn y Cyngor Sgiliau Sector a gallwn ddylunio atebion o’ch cwmpas chi - gan sicrhau eich bod yn cael mynediad i ddeunydd dysgu ar lein fydd yn gwella eich effeithlonrwydd.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda David Bratley – Arbenigwr E-Ddysgu ac Adnoddau
Topiau
Cynllunio Busnes Strategol
Os ydych chi’n cael trafferth i gynhyrchu cynlluniau busnes, gallwn eich helpu. Mae ein cynlluniau yn cynnig gweledigaeth glir ac yn amlinellu eich amcanion allweddol a defnydd effeithiol o’ch adnoddau busnes.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Mike Scott – Cyfarwyddwr
Topiau
Diagnosteg Busnes
Cyn gwneud dim, byddwn yn wastad yn sicrhau ein bod wedi gwneud diagnosteg a chytuno
eich gwir anghenion busnes. Mae’n rhan sylfaenol o’n proses cefnogi. Sicrha hyn ein bod yn cael yr atebion cywir a’ch bod yn deall y canlyniadau y gellir eu cyflawni.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Mike Scott - Cyfarwyddwr
Topiau
Methodoleg Gwelliant Parhaol
Mae cysondeb mewn gofal cleient yn sicrhau boddhad cwsmer. Gyda’n cefnogaeth ni, gallwch weithredu strategaethau fydd yn hybu eich gwasanaeth cwsmer a chynhyrchu canlyniadau busnes ardderchog. Gallwn gymysgu a chydweddu hyfforddiant, cyngor ac ymgynghoriaeth er mwyn ymyrraeth effeithiol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Mike Scott – Cyfarwyddwr
Topiau
Gofal Cwsmer
Mae yna’n wastad well ffordd o wella’ch prosesau busnes, a gall ein cefnogaeth eich helpu i’w ddarganfod. Mae’r gefnogaeth hwn wedi ei deilwra i’ch anghenion ac mae’n annog gwelliant parhaol i bawb yn eich mudiad. Y canlyniad? Tyfiant a chynnydd busnes cyson a chyfredol. Pam na ofynnwch ynglŷn â’n cefnogaeth ymgynghoriaeth a hyfforddiant mewn llawer o feysydd eraill busnes?
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Clare Hodge – Cydlynydd Rheolaeth Arweinyddiaeth
Topiau
Topiau